Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 4
Hydref 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? EAQ(5)0053(EI)
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr UE? EAQ(5)0189(FM)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(0 munud)
(45 munud)
(15 munud)
NDM6106 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru
1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 13 Medi 2016.
Dogfennau Ategol
Gorchymyn
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
Cymru) (Diwygio) 2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg
yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
‘Rhaglen
Ddeddfwriaethol 2016-17’
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
1.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn
ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd
pobl a chymunedau ledled Cymru.
2.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.
'Rhaglen
yr Wrthblaid Plaid Cymru'
3.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen Lywodraethu a
fyddai'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i
werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru o ran blaenoriaethau.
4.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y
Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a methiant
Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno
i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i
Gymru.
5.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu ynghylch y
mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r
blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi.
6.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 5 Hydref 2016